SL(5)061 – Gorchymyn Sŵn o Larymau Tresmaswyr Clywadwy (Cymru) (Dirymu) a Rheoli Sŵn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo codau ymarfer at ddiben rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leihau sŵn (gan gynnwys dirgryniad) a rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer o’r fath ar gyfer cyflawni mathau o waith y mae adran 60 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a gwaith ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o waith adeiladu peirianyddol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo’r ddwy ran o god ymarfer y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer rheoli sŵn a dirgryniad ar safleoedd adeiladu a safleoedd agored. Diffinnir safleoedd agored yn y cod fel safleoedd lle y mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn yr awyr agored sy’n ymwneud â chloddio, lefelu neu ddyddodi deunydd.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.2(x): ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad).

- Gwnaed y Gorchymyn ar 24 Ionawr 2017 ond ni osodwyd yr offeryn gerbron y Cynulliad tan 2 Chwefror 2017.

- Mae’r Pwyllgor yn pwysleisio pwysigrwydd gosod offerynnau gerbron y Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Mae angen i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddeddfwriaeth wybod am y ddeddfwriaeth honno cyn gynted â phosibl, ac mae gosod offerynnau gerbron y Cynulliad yn rhan bwysig o ofalu bod deddfwriaeth ar gael i’r cyhoedd.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

6 Chwefror 2017